Ads

Searching...

Ads

Thursday, October 5, 2017

5 Uchafbwynt digwyddiad Iechyd a Lles Machynlleth / Top 5 Highlights from Machynlleth Health & Wellbeing event

October 05, 2017
Helen Roberts, Cathy O'Dwyer a Sioned Jones Pritchard
Ddydd Llun es i draw i’r digwyddiad hwn yn Llyfrgell Machynlleth. Sioned Jones Pritchard, un o’m cydweithwyr yn y tîm Cysylltwyr Cymunedol gyda PAVO drefnodd y digwyddiad, ar y cyd gyda thîm Ymwelwyr Iechyd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae digwyddiadau fel hyn yn rhagorol i staff rwydweithio a darparu gwybodpaeth ar wasanaethau i’r cyhoedd sy’n ymweld â’r digwyddiad. Byddaf wastad yn dod o hyd i rywbeth newydd i rannu gydag eraill fel rhan o’r Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Meddwl. Felly i’r rhai fethodd y cyfle i fynd i’r digwyddiad, dyma fy 5 uchafbwynt i o’r sesiwn.


On Monday I went along to this event at Machynlleth Library. It had been organised by Sioned Jones Pritchard, a PAVO colleague from the Community Connectors’ team, in conjunction with the health visiting team of Powys Teaching Health Board.

Events like these are great for staff networking and providing information about services to members of the visiting public. I always manage to find out something new to tell others about as part of our Mental Health Information Service. So, for those that didn’t get chance to go along on the day, I thought I would highlight five of my favourite “finds” from the session.

Eleri Lewis a Anita Schwartz
1. Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Newydd Powys (IAS) / New Integrated Autism Service (IAS) Powys

Gwasanaeth newydd yw hwn i bobl o bob oed yng ngofal y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd â chysylltiadau cryf ag addysg. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yw’r bwrdd cyntaf trwy Gymru i gynnig y gwasanaeth hwn a gyllidir gan Lywodraeth Cymru “oherwydd dywedodd unigolion awtistig, eu rhieni a gofalwyr bod angen mwy o gefnogaeth arnynt”.

Bu Anita ac Eleri’n egluro y gall ceisiadau am gymorth ddod gan weithwyr proffesiynol yn ogystal ag unigolion awtistig neu eu teuluoedd a gofalwyr. Ymhlith enghreifftiau o wasanaethau a ddarperir mae: cymorth gyda phroblemau emosiynol, pryder a rheoli dicter, meithrin sgiliau cymdeithasol, grwpiau hamdden a chymdeithasol, cymorth a hyfforddiant i rieni/gofalwyr a datblygu sgiliau bywyd dyddiol.

Un pwynt mynediad sydd ar gyfer pob cais: rhif ffôn: 01874 712607 neu drwy ebostio: powys.IAS@wales.nhs.uk

This new all age service is jointly hosted by Health and Social Care with strong links to Education. Powys Teaching Health Board is the first in Wales to provide the service which is being funded by Welsh Government “because autistic individuals, parents and carers told us they needed more support”.

Anita and Eleri explained that requests for support can come from professionals and also individuals with autism or their families and carers. Examples of services which are being provided include: support with emotional issues, anxiety and anger management, social skills development, leisure and social groups, parent/carer support and training and daily living skills development.

There is a single point of access for all requests, tel: 01874 712607 or email: powys.IAS@wales.nhs.uk

Teresa Peel Jones
2. Siop gyntaf Credu – Cysylltu Gofalwyr yn agor / Credu Connecting Carers’ first shop opens

Teresa Peel Jones yw Rheolwr Datblygu’r Siop a’r Hyb gyda Credu a bu’n sôn am siop elusennol gyntaf y sefydliad a agorwyd yn 38 Heol Maengwyn, Machynlleth. “Nid siop yn unig yw, ond hyb cymunedol hefyd” meddai. Byddwn yn annog ymwelwyr i daro heibio am baned a sgwrs, i ymuno â’r gweithgareddau celf a chrefft ac i ddefnyddio’r ystafell gyfarfod sydd ar gael i’r gymuned. Hefyd cynigir cyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli. Cynhelir sesiynau Paned Gofalwyr ar ddydd Iau cyntaf bob mis am 2 o’r gloch. Gellir dysgu mwy drwy ffonio 01654 703926 neu ebostio: shops@credu.cymru

Dywedodd Teresa: “byddem yn hoffi gweld cymdogion ein cymunedau lleol yn ymgysylltu ac yn helpu ei gilydd. Yn ein barn ni, mae bod yn ofalwr ymroddedig yn gadael llawer gormod o bobl wedi blino’n lân, yn unig (yn ddiangen) a heb digon o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden ac i fynegi eu hunain. Rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â hyn, ond gwyddom mai’r unig ffordd y gellir cyflawni hyn yw ar y cyd gyda gofalwyr a’u cymunedau.”


Teresa Peel Jones is the Retail and Hub Development Manager at Credu and told me all about the first of the organisation’s charity shops which opened in Machynlleth at 38 Heol Maengwyn. It’s described as: “not just a shop but a community hub”. Visitors are encouraged to pop in for a cuppa and a chat, join in arts and crafts workshop activities and use the community meeting room. There are also training and volunteering opportunities. The Cuppa for Carers’ meetings take place on the first Thursday of every month at 2pm. Find out more by ringing 01654 703926 or emailing: shops@credu.cymru

Teresa said: “we’d like to see neighbours within our local communities engaging and helping each other. We believe that being a committed carer leaves far too many people exhausted, unnecessarily isolated, and without sufficient opportunities for essential recreation and self-expression. We are determined to address this, but know that this can only be achieved in association with carers and their communities.”


3. CAMAD – Swyddog Prosiect Llwybrau newydd yn cychwyn / CAMAD – new Pathways Project Officer starts

Croeso cynnes Miriam Davies sydd wedi cychwyn ar ei swydd newydd yn ddiweddar gyda CAMAD fel Swyddog Prosiect Llwybrau, i gefnogi pobl i ddod i wasanaeth taro heibio’r sefydliad i bobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn ardal Machynlleth. Gweler cyflwyniad gan Jeremy Richards, y cydlynydd blaenorol ar brosiect Llwybrau yma.

Nid oedd Miriam yn gallu bod yn bresennol yn y digwyddiad yn Llyfrgell Machylleth oherwydd roedd ei sesiwn hi’n un pryd! Fodd bynnag, daeth un o’i chydweithwyr yn CAMAD, Holly Fairclough, draw yn ei lle hi. I ddysgu mwy am Brosiect Llwybrau, ffoniwch: 01654 700071 neu ebostiwch: office@camad.org.uk


Welcome to Miriam Davies who started at CAMAD recently as the new Pathways Officer, supporting people to attend the organisation’s drop in service for anyone living with mental health issues in the Machynlleth area. Jeremy Richards, the previous co-ordinator, wrote about the Pathways Project originally here.

Miriam couldn’t make the event at Machylleth Library as the drop-in was open at the same time! However, her CAMAD colleague Holly Fairclough attended instead. To find out more about the Pathways Project ring: 01654 700071 or email: office@camad.org.uk

Sian Roberts
4. Chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer cynllun Buddsoddi yn eich Iechyd / Invest in your Health: volunteers sought

Dywedodd Sian Roberts wrthyf bod angen cefnogwyr gwirfoddol ar gyfer y rhaglenni Buddsoddi yn eich Iechyd -rhaglenni iechyd a lles 6 wythnos o hyd sy’n cael eu cyflenwi am ddim ar hyd a lled y sir. Ym Machynlleth mae’r rhaglen nesaf, fydd yn rhedeg rhwng 25 Hydref - 29 Tachwedd yn yr ysbyty, 10am – 12.30pm, ond mae angen gwirfoddolwyr ar draws Powys, felly nid oes rhaid ichi fyw yn y Gogledd!

Bydd y cefnogwyr gwirfoddol yn gyfrifol am nifer o dasgau – mynychu’r rhaglen a sesiynau hyfforddiant cysylltiedig, cymryd rhan mewn cyfarfodydd monitro ansawdd, a gweithio’n agos gyda’r tîm Buddsoddi yn eich Iechyd i groesawu cyfranogwyr, dosbarthu taflenni’r cwrs, cyd-hwyluso agweddau ar y rhaglen, ac ychwnaegu profiadau personol i gynnwys y rhaglen. Telir costau teithio.

Gellir dysgu mwy am y swydd wirfoddol hon drwy gysyltu â Sarah Cronin, Rheolwr Datblygu’r Ganolfan Rheoli Cyflyrau Hirdymor, Bronllys, Aberhonddu, LD3 0LU. Ffôn: 0800 169 5586 neu drwy ebostio: sarah.cronin@wales.nhs.uk


Sian Roberts told me that volunteer peer supporters are required for the free Invest in your Health 6 week health and wellbeing programmes which are delivered around the county. The next programme is actually in Machynlleth, running from 25 October until 29 November at the hospital, 10am – 12.30pm, but volunteers are required across Powys so you don’t need to live in the North!

The volunteer peer supporters will have a number of tasks – attending the programme and related training sessions, participating in quality monitoring meetings, and working closely with the Invest in your Health team to welcome participants, distribute course hand-outs, co-facilitate aspects of the programme and add personal experiences to the content of the programme. Travel expenses will be reimbursed.

You can find out more and apply for the position by contacting Sarah Cronin, Development Manager at the Centre for Long Term Condition Management, Bronllys, Brecon, LD3 0LU. Tel: 0800 169 5586 or email: sarah.cronin@wales.nhs.uk

Nia Llywelyn
5. Awyddus i gynnig gwasanaeth dwyieithog? Gall Menter Iaith Maldwyn eich helpu! / Want to provide a bilingual service? Menter Iaith Maldwyn can help!

Sefydliad lleol yng Ngogledd Powys yw Menter Iaith Maldwyn – un o 24 o Fentrau Iaith ar hyd a lled Cymru. Mae’r sefydliad bywiog hwn yn gweithio gyda phobl a phlant o bob oed ar draws Sir Drefaldwyn. Ei nod yw rhoi cyngor a chymorth i unigolion, sefydliadau a busnesau yn yr ardal, yn ogystal â threfnu gweithgareddau fydd yn codi proffil y Gymraeg. Mae swyddogion PAVO yn awyddus iawn i ddysgu am fentrau sy’n gallu ein cynorthwyo ni, yn enwedig dysgwyr Cymraeg ein timau, i ddysgu mwy o’r Gymraeg a defnyddio’r iaith yn ein bywydau gwaith bob dydd.

Roedd Nia Llywelyn hefyd yn hyrwyddo’r diwrnod Shwmae Su’mae, ar 15 Hydref, “cyfle i gael hwyl a rhannu’r Gymraeg – yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith, yr ysgol,y caeau chwarae a gyda ffrindiau.”


Menter Iaith Maldwyn is a local organisation in North Powys - one of 24 language initiatives covering the whole of Wales. This vibrant organisation works with people and children of all ages across Montgomeryshire. The aim is to give advice and support to individuals, organisations and businesses in the area, as well as organising activities to raise the profile of the Welsh Language. Here at PAVO we are really keen to find out about initiatives which can help us, especially the Welsh beginners in our teams, learn more of the language and put it to use in our everyday work lives.

Nia Llywelyn was also promoting Shwmae Su’mae Day, on 15 October, “an opportunity to have fun and share the Welsh language – in the shop, leisure centre, work, school, playing fields and with your friends.”


Wrth gwrs, roedd cynrychiolwyr llawer mwy o sefydliadau’n bresennol ddydd Llun ar wahan i’r rhai a nodwyd yn barod, megis Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyngor Sir Powys, Age Cymru, Ymwybyddiaeth a Chymorth Asbestos Cymru, Canolfan Cyngor Bro Ddyfi a chydweithwyr PAVO o Brosiect Cynlluniau Cyfeillion Powys a’r canolfan Gwirfoddoli. Prynhawn gwych ym Machynlleth – os oes gan unrhyw un unrhyw gwestiynau, gallwch anfon neges isod, neu ebost atom ar: mentalhealth@pavo.org.uk, neu drwy ffonio 01597 822191.

Of course, there were representatives from many other organisations in attendance on Monday besides those I have already mentioned, including Dyfed Powys Police, Mid and West Wales Fire Service, Powys County Council, Age Cymru, Asbestos Awareness & Support Cymru, Bro Dyfi Advice Centre and PAVO colleagues from the Powys Befrienders’ Project and the Volunteer Centre. All in all an excellent afternoon in Machynlleth – if anyone has any queries then just post a comment below or send an email to us at: mentalhealth@pavo.org.uk, or ring 01597 822191.

0 comments:

Post a Comment

Ads